
Mynegai Cymraeg
Digwyddiadau
Diwrnod Ewrop 2008
Diwrnod Ewrop 2008
Dathlwyd Diwrnod Ewrop mewn arddull aml-ddiwylliannol gan blant ysgolion Sir Gaerfyrddin ar 9fed Mai 2008. Bu dros 200 o blant o 22 ysgol o bob cwr o Orllewin Cymru yn rhoi sylw i ddiwylliannau rhyngwladol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Middleton.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu ar y cyd gan Ganolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru Cyngor Sir Caerfyrddin ac Adran Addysg Cyngor Ceredigion.
Rhannwyd y plant yn grwpiau i wneud gweithgareddau megis adrodd storïau o bedwar ban byd, drymio Affricanaidd, gwneud masgiau ar gyfer operâu Tsieineaidd, ac arddangosfa goginio. Hefyd, gwnaethant gymryd rhan mewn cwis 'stampio eich pasbort’ ar gyfer y raffl fawr ar ddiwedd y dydd.
Fe wnaeth Meryl Gravell, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ganmol y swyddogion am eu gwaith dros y chwe mis blaenorol yn paratoi ar gyfer y digwyddiad, a dywedodd fod gwisgoedd lliwgar y plant yn glod i'r ysgolion a'r rhieni.
Rhoddodd Andy Klom, Pennaeth cynrychiolaeth y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, ganmoliaeth i Sir Gaerfyrddin am wneud “mwy o ymdrech na'r rhan fwyaf" i ddathlu Diwrnod Ewrop ar 9fed Mai. Aeth ymlaen i ddweud, “Mae'r diwrnod hwn yn Ŵyl Banc ar rannau helaeth o'r cyfandir, lle mae strydoedd parti a llawer o gyffro, ac felly mae'n bwysig dros ben bod ein pobl ifanc yn deall awryddocâd Diwrnod Ewrop.”
Cyflwynwyd y wobr am y cwis 'stampio eich pasbort' gan Eluned Morgan, Aelod o Senedd Ewrop, i Ysgol y Santes Fair, Caerfyrddin, ac wrth iddo gloi digwyddiadau'r diwrnod, bu'r Cynghorydd Dewi Enoch yn llongyfarch y plant a'r athrawon ar eu hymdrechion.
Diolch yn arbennig i Gastell Howell am noddi'r arddangosfa goginio, ac i Tesco Llanelli am roi camera digidol a thalebau cyfrifiaduron i ysgolion fel gwobrau ar gyfer y raffl fawr.
|
Lluniau |