
Mynegai Cymraeg
Gwybodaeth
Blwyddyn Ewropeaidd

Blwyddyn Ewropeaidd…
2008 yw blwyddyn Ewropeaidd Deialog Amlddiwylliannol. Efallai ichi glywed am hyn ond beth yn union ydyw? A pham mae gennym flwyddyn wedi'i neilltuo i amlddiwylliannaeth?
Mae'r Undeb Ewropeaidd sydd â 27 o wledydd yn aelodau ohono, bellach yn fwy amrywiol yn ddiwylliannol nag o'r blaen. Mae helaethu'r UE a globaleiddio wedi bod yn rhannol gyfrifol am gynyddu natur amlddiwylliannol sawl gwlad, gan ychwanegu at nifer yr ieithoedd, crefyddau, cefndiroedd ethnig a diwylliannol sydd ar y cyfandir hwn.
Fel canlyniad mae gan ddeialog rhwng diwylliannau ran fwyfwy pwysig yn meithrin hunaniaeth a dinasyddiaeth Ewropeaidd.
Eleni tynnir sylw at y ffaith fod amrywiaeth ddiwylliannol fawr Ewrop yn fantais unigryw. Ei nod yw annog pawb sy'n byw yn Ewrop i gael golwg ar fanteision ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac ar y cyfleoedd i ddysgu o wahanol draddodiadau diwylliannol.
Trefnwyd amryw o ddigwyddiadau eisoes ond mae llawer mwy i ddod, ar lefel Ewropeaidd ond hefyd ym mhob aelod-wladwriaeth gan roi sylw i bynciau allweddol megis amlieithrwydd, crefyddau, diwylliant, ieuenctid, gwyddoniaeth...
Rhwng 04–11 Rhagfyr, bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnal
wythnos amlddiwylliannol
am
y tro cyntaf. Bydd y digwyddiadau canlynol yn cael eu cynnal yn y sir:
| 28 Medi 2008 | Diwrnod Agored yr Heddlu |
| 10 Hydref 2008 | Fforwm Cymru ar Ewrop - Coleg y Drindod, Caerfyrddin |
| 10-12 Tachwedd 2008 | Wythnos Ymwybyddiaeth Hil Coleg Sir Gâr |
| 04-11 Rhagfyr 2008 | Arddangosfa Gwyliau Goleuni ym Mhedwar Ban Byd, Ysgol Rhyd-y-Gors, Caerfyrddin |
| 04-11 Rhagfyr 2008 | Arddangosfa Croeso - Amgueddfa Caerfyrddin ac Amgueddfa Parc Howard |
| 04 Rhagfyr 2008 | Canolfan Gymunedol Llandeilo - Sesiwn cyflwyno iaith, am ddim, 12.00-1.00 pm |
| 04 Rhagfyr 2008 | Ysgol Gynradd Pentip - Ffair ‘Nadolig Pob Cwr o’r Byd’ |
| 04 Rhagfyr 2008 | Gŵyl Ffilmiau Tramor - Theatr y
Lyric La Mome - La vie en Rose (12A | 140 mins | France | 2007) - 2.30pm The Fall (15 | 117 mins | India/UK | 2008) - 7.30pm |
| 04 Rhagfyr 2008 | Sesiwn Cyflwyno Iaith am ddim,
Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth - Ffrangeg, 6-8pm (Gwella sgiliau / ystafell ddosbarth agored) |
| 08 Rhagfyr 2008 | Sesiwn Cyflwyno Iaith am ddim
Canolfan Llwynhendy, Sbaeneg, 6-8pm (Ystafell ddosbarth agored) |
| 08 Rhagfyr 2008 | Sesiwn Cyflwyno Iaith am ddim
Canolfan Gymunedol Pen-bre, Ffrangeg, 4-6pm (Dechreuwyr / Ystafell ddosbarth agored) |
| 08 Rhagfyr 2008 | Sesiwn Cyflwyno Iaith am ddim
Canolfan Gymunedol Pen-bre, Ffrangeg, 6.30-8.30pm (Gwella Sgiliau / Ystafell ddosbarth agored) |
| 08 Rhagfyr 2008 | Gŵyl Ffilmiau Tramor - Theatr
Elli La Vita e Bella (PG | 116 mins | Italy | 1998) - 2.30pm Volver (15 | 121 mins | Spain | 2006) - 7.30pm |
| 09 Rhagfyr 2008 | Gwobrau Ieuenctid Brynaman - Canolfan Gymunedol Brynaman, 6-8pm |
| 09 Rhagfyr 2008 | Free Language Taster Session, Canolfan Gymunedol Caerfyrddin, Cwrs Blasu Cymraeg, 12.00 - 1.00 pm |
| 10 Rhagfyr 2008 | Free language taster session- Neuadd y Dref, Llanelli, Cwrs Blasu Cymraeg 12.00 - 1.00. |
| 11 Rhagfyr 2008 | Gŵyl Ffilmiau Tramor - Theatr y Glowyr, Rhydaman Oed yr Addewid (15 | 88 mins | Wales | 2001) - 2.30pm Krotki Film o Milosci (15 | 83 mins | Poland | 1998) - 7.30pm |
| 11 Rhagfyr 2008 | Cynhadledd ryngddiwylliannol -
Parc y Scarlets, 10am-1pm Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle, cysylltwch â cydraddoldeb@sirgar.gov.uk |
| 11 Rhagfyr 2008 | Dathliadau Amlddiwylliannol -
Parc y Scarlets, 3pm-8pm (mynediad am ddim) Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle, cysylltwch â cydraddoldeb@sirgar.gov.uk |
|
Rhagor o adnoddau |