Text Size: A A A     +44 (0)1267 242360  |  email wwec@carmarthenshire.gov.uk
Europe Direct ac Eurodesk 


Europe Direct

Cafodd Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru ei chymeradwyo yn un o ganolfannau gwybodaeth newydd Europe Direct i ddarparu gwybodaeth a chyngor am yr UE i’r cyhoedd ledled y DU. Mae’r 16 yn y DU (3 yng Nghymru) yn ymuno â phedwar cant o rai eraill sy’n bod yn barod yn Aelod Wladwriaethau eraill yr UE.

Mae bwletinau gwybodaeth Europe Direct yn anelu at:

  • Alluogi pobl leol i gael gafael ar wybodaeth, cyngor, cymorth ac atebion i gwestiynau am sefydliadau, deddfwriaeth, polisïau, rhaglenni a chyfleoedd cyllid yr Undeb Ewropeaidd
  • Hyrwyddo trafodaethau lleol a rhanbarthol am yr Undeb Ewropeaidd a'i bolisïau.
  • Caniatáu i'r sefydliadau Ewropeaidd wella'r modd y dosberthir gwybodaeth sy'n adlewyrchu anghenion lleol a rhanbarthol.
  • Rhoi cyfle i'r cyhoedd anfon adborth i sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd ar ffurf cwestiynau, sylwadau ac awgrymiadau.

 I gael rhagor o wybodaeth am Ewrop yn y D.U., cliciwch yma.

Eurodesk

eurodeskuk

Mae Eurodesk yn wasanaeth gwybodaeth a chynghori ledled yr UE ar gyfer pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid. Mae’n rhan o raglen Ieuenctid ar Waith, a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Sut y gall Eurodesk fod o gymorth i chi?

  • Rydym yn darparu gwybodaeth am gyfleoedd astudio, gweithio, teithio a gwirfoddoli yn Ewrop
  • Rydym yn cynnal a chefnogi pobl ifanc a phobl sy’n gweithio gyda nhw ac yn ateb eu cwestiynau am Ewrop
  • Mae ein gwefan yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau ieuenctid yn y DU ac Ewrop, digwyddiadau arfaethedig yn ogystal â gwybodaeth am gyllid a’r cymorth sydd ar gael
  • Gallwch hysbysebu eich digwyddiadau a’ch prosiectau neu gysylltu â mudiadau a gweithwyr ieuenctid o bob rhan o Ewrop.