Cydgyfeirio
Mae rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi cael y lefel uchaf o gymorth a elwir yn Cydgyfeirio, oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer cylch rhaglennu’r Cronfeydd Strwythurol 2007-2013.
Mae’r rhaglen Cydgyfeirio yn olynu rhaglen Amcan 1 2000-2006 ac mae’n cynnwys 15 ardal awdurdodau lleol yn rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Mae'r Rhaglenni Cydgyfeirio'n cynnwys cyllid o ddwy Gronfa Strwythurol Ewropeaidd unigol: Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Bydd tua £1 biliwn o arian ERDF yn helpu trawsnewid y rhanbarth yn economi gynaliadwy a chystadleuol trwy fuddsoddi yn yr economi wybodaeth a helpu busnesau presennol i dyfu. Bydd yn canolbwyntio hefyd ar adfywio cymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, mynd i’r afael â newid hinsawdd a gwella trafnidiaeth. Defnyddir dros £690 miliwn o’r ESF i fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd, gwella sgiliau a chreu mwy o swyddi. Gydag arian cyfatebol, bydd Cydgyfeirio’n arwain buddsoddiad cyffredinol o £3.5 biliwn yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Mae'r pedwar awdurdod lleol yn Ne-orllewin Cymru sef Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, wedi bod yn cydweithio i sicrhau cynifer o fanteision â phosibl o gyllid Cydgyfeirio. Mae'r Awdurdodau Lleol, o dan faner Fforwm Partneriaeth Ranbarthol De-orllewin Cymru, wedi ymateb i'r heriau a roddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i'r sector cyhoeddus i gynyddu arbedion effeithlonrwydd drwy weithio ar y cyd. Mae'r cydweithio hwn eisoes yn arwain at well effeithlonrwydd, ffyrdd symlach o weithio a rhannu arferion da.
Cafodd prosiectau allweddol eu datblygu a'u cymeradwyo yn y rhanbarth sy'n gwneud cyfanswm buddsoddiad gwerth £190m gyda phwyslais mawr ar swyddi a thwf. I gael rhagor o wybodaeth,
cliciwch yma.
Rhagor o wybodaeth (SCEC):
http://wefo.wales.gov.uk/programmes/convergence/?lang=cy