Ymwadiad a Datganiadau Preifatrwydd
Ymwadiad
Mae Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth sydd ar y wefan hon yn gywir, yn ddibynadwy, ac wedi'i diweddaru. Nid yw Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru, ei chyflenwyr, na phartïon eraill sy'n gysylltiedig â chreu a gweithredu'r wefan hon, yn atebol am unrhyw ddifrod, colled, neu anghyfleustra uniongyrchol neu anuniongyrchol a achosir gan ddibyniaeth a ddeillia o ddefnyddio'r wefan hon.
Dolenni cyswllt
Mae'r wefan hon yn cynnwys dolenni cyswllt â gwefannau eraill y mae'n bosibl nad ydynt yn cael eu gweithredu gan Ganolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru.
Nid yw Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn, ac nid yw'n atebol am unrhyw ddifrod, colled, neu anghyfleustra a allai ddigwydd yn sgil defnyddio'r gwefannau.
Hawlfraint
Oni bai y nodir fel arall, gan Ganolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru y mae'r hawlfraint ar yr holl ddeunydd ar y wefan hon, gan gynnwys logo'r Ganolfan (WWEC), y testun, a'r lluniau. Gellir defnyddio'r deunydd a warchodir gan hawlfraint ar yr amod nad oes newidiadau'n cael eu gwneud iddo a bod Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru yn cael ei chydnabod fel y perchennog.
Gwaherddir defnyddio'r deunydd er budd masnachol ac er mwyn gwneud elw, heblaw bod caniatâd ysgrifenedig ffurfiol wedi cael ei roi ymlaen llaw.
Os rhoddir caniatâd gan Ganolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru i ddefnyddio deunydd ar y wefan hon y mae hawlfraint ganddi arno, nid yw'r caniatâd hwnnw'n berthnasol i unrhyw ddeunydd y mae hawl gan drydydd partïon arno, a rhaid cael caniatâd y trydydd partïon hynny i ddefnyddio deunydd o'r fath.
Datganiad Preifatrwydd
Nid yw Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru yn storio nac yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol am yr unigolion sy'n ymweld â'r wefan hon, oni bai lle rydych wedi dewis rhoi eich manylion personol inni drwy'r E-bost neu ar ffurflen ar-lein wrth wneud cais am wasanaeth gennym.
Lle rydych yn dewis cwblhau unrhyw un o'n ffurflenni ar-lein, mae'r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi inni ond yn cael ei defnyddio gan y Cyngor neu drydydd parti sydd dan gontract, a hynny'n unig er mwyn darparu'r gwasanaeth(au) sy'n ofynnol gennych.
Mae Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu eich gwybodaeth, a chaiff unrhyw ddefnydd o'r wybodaeth, gan gynnwys datgeliadau, ei wneud yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data 1998. Mae'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti sydd â chontract â Chanolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru gydymffurfio â'r un safonau.
Nid yw'r datganiad preifatrwydd hwn yn cwmpasu'r dolenni cyswllt â gwefannau eraill.