Digwyddiad mawr i roi hwb i fentrau gwledig y du
Arbenigwyr yn dod at ei gilydd i ysbrydoli syniadau busnes arloesol i adfywio pentrefi gwledig
Pryd:
Dydd Llun 27 Chwefror
Ble:
Burlington House Hotel, Birmingham
Amser:
9:30am - 5:30pm
I gofrestru a chael mwy o wybodaeth:
www.villagesos.org.uk
Mae cymunedau yng Nghymru'n cael eu hannog i ddod i ddigwyddiad pwysig sydd â'r nod o helpu cymunedau gwledig y DU i achub gwasanaethau hollbwysig a gwrthdroi dirywiad gwledig.
Bydd Cynhadledd Genedlaethol Pentref SOS y Gronfa Loteri Fawr yn galw ar yr ystod ehangach o arbenigwyr o'r ystod o sectorau menter wledig a chymdeithasol y DU i roi’r gefnogaeth y mae ei hangen ar gymunedau i adfywio eu pentrefi drwy sefydlu mentrau cymunedol - o siopau a thafarndai i brosiectau bwyd a chludiant lleol.
Ymunir â Chadeirydd DU y Gronfa Loteri Fawr, Peter Ainsworth, gan arweinwyr y sector, gan gynnwys Prif Weithredwr Sefydliad Plunkett, Peter Couchman, Cadeirydd Co-operatives UK, David Button, Prif Weithredwr Action for Communities in Rural England (ACRE), Sylvia Brown a Phrif Weithredwr Locality, Steve Wyler, y maent i gyd yn bartneriaid yn rhaglen Pentref SOS y Gronfa Loteri Fawr, sy'n darparu'r gefnogaeth fwyaf cynhwysfawr erioed i gymunedau sy'n sefydlu mentrau cymunedol ledled y DU.
Mae Cymru eisoes yn gartref i fentrau cymunedol hynod o lwyddiannus megis prosiect Melin Talgarth ym Mhowys, a adnewyddodd Melin Flawd o'r 18fed ganrif i gyflwr gweithredol, Popty a chaffi glan afon ym mhentref Talgarth; a phrosiect Myddfai yn Sir Gâr, a ddymchwelodd eu hen ganolfan gymunedol yn y pentref er mwyn datblygu menter fusnes newydd a arweinir gan y gymuned ynghyd â chyrchfan wledig o safon. Dyfarnodd y Gronfa Loteri Fawr grantiau i'r ddau brosiect, a ymddangosodd ar gyfres deledu oriau brig y BBC, Village SOS a gyflwynwyd gan Sarah Beeny, yr haf diwethaf.
Yn y gynhadledd bydd cynrychiolwyr yn cael eu hysbrydoli a'u hannog i gychwyn eu prosiectau eu hunain ac ymunir â nhw gan arbenigwyr o bob rhan o'r DU, gan gynnwys Canolfan Gydweithredol Cymru, arbenigwyr ariannu busnesau a gweithwyr marchnata a chynllunio proffesiynol.
Meddai Cadeirydd DU y Gronfa Loteri Fawr, Peter Ainsworth, a fydd hefyd yn cadeirio'r gynhadledd: "Bob blwyddyn mae cannoedd o amwynderau lleol megis siopau a thafarndai'n cau i lawr mewn ardaloedd gwledig. Gall effeithiau hyn, ynghyd ag opsiynau cludiant cyfyngedig, unigedd gwledig a diffyg cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc i gyd daro ergyd i galon bywyd pentrefi. Bydd y gynhadledd Pentref SOS genedlaethol yn helpu pobl i fynd i'r afael â hyn i gyd drwy ddod â chefnogaeth, gwybodaeth a chyngor arbenigol ynghyd ar raddfa na roddwyd cyfle arni o'r blaen."
Meddai Fflur Lawton, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: "Dyma amser heriol, ond cyffrous, i gymunedau. Er eu bod yn wynebu heriau newydd, maen nhw'n troi'n gynyddol at eu hunain i ymdrin â'r materion y maent yn eu hwynebu, a bydd y digwyddiad Pentref SOS nodedig hwn yn darparu'r offer a'r ysbrydoliaeth y mae eu hangen ar gymunedau yng Nghymru i fynd i'r afael â'r problemau hyn eu hunain drwy sefydlu mentrau newydd yn eu cymunedau. Bydd yn gyfle unigryw i rannu dysgu o'r enghreifftiau gorau oll o fentrau cymunedol ym mhob cwr o'r DU."
Dyma gynhadledd hanfodol, sydd ar gael am ddim, ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymunedau gwledig a mentrau cymunedol. Bydd yn cynnwys gweithdai arbenigol ar bynciau megis cynllunio busnes a hygyrchu cyllid, cyd-drafodaethau ar y problemau y mae cymunedau gwledig yn eu hwynebu a sut y gellir eu goresgyn, a'r cyfle i leisio eich barn am yr hyn y mae angen i chi ei wneud i adfywio eich pentref.
I gael mwy o wybodaeth ac i gadw lle yn y Gynhadledd Genedlaethol yn Birmingham, ewch i'r wefan Pentref SOS benodedig
www.villagesos.org.uk neu ffoniwch ein llinell gymorth ar 0845 434 9123.
Mwy o Wybodaeth:
Katherine Darling - Sefydliad Plunkett: 01993 810 730
E-bost:
katherine.darling@plunkett.co.uk