Y DIGWYDDIAD: Ffair Gyllid Sir Gaerfyrddin 2012
Mae Ffair Gyllid Sir Gaerfyrddin wedi'i threfnu gan y Biwro Cymunedol mewn partneriaeth â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) a bydd mwy na 50 o gyllidwyr yn y ffair.
Bydd y Ffair yn gyfle gwych i bob sefydliad yn Sir Gaerfyrddin gael gwybod am y cymorth a'r cyllid sydd ar gael ledled y sir gan gynnwys gweithdai ynghylch
Sefydlu Strwythurau Sefydliadol Cynaliadwy a
Cyfleusterau Hamdden a Reolir gan y Gymuned - Sesiwn Cyfarwyddo ynghylch Trosglwyddo Asedau.
O fusnes a thwristiaeth i grwpiau gwirfoddol cymunedol a sefydliadau chwaraeon gallwch gael budd o wybodaeth a chyngor rhad ac am ddim. Mae cludiant ar gael yn rhad ac am ddim o fannau codi dynodedig.
Y DYDDIAD: 22 Chwefror 2012 (10.30am - 3.00pm)
Y MAN CYNNAL: Canolfan Delme Thomas, Parc y Scarlets, Llanelli
COFRESTRU / CYSYLLTU: Gwefan:
www.sirgar.gov.uk/digwyddiadadfywio / Rhif Ffôn: 01269 590216