Cyfle i Dendro am Gyllid Cydgyfeirio - Y Ddraig Ffynci
Mae cyfle ar gael i dendro am ddarparu Hyfforddiant Dinasyddiaeth Weithgar y Ddraig Ffynci (Achrediad Agored Cymru), sy'n rhan o fenter Cyrraedd y Nod.
Nod y tendr yw darparu rhaglen hyfforddi Dinasyddiaeth Weithgar y Ddraig Ffynci ar gyfer 20-25 o bobl ifanc rhwng 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Rhaid i'r bobl ifanc fod yn byw yn un o 15 awdurdod lleol y rhaglen Gydgyfeirio. Mae hyd at £4,500 ar gael i bob contract, gydag uchafswm o £1,500 ar gael i dalu am y costau cymwys (e.e. llogi man cynnal).
Estynnir gwahoddiad i'r rhai sydd â diddordeb ddod i'r diwrnod agored un ai yn swyddfa'r Ddraig Ffynci yn Wrecsam neu yn Abertawe ar 06 Chwefror 2012 rhwng 1.30pm a 3.30pm. Nid oes rheidrwydd arnoch i ddod, ond mae'n gyfle ichi ofyn cwestiynau a chael gwybod rhagor.
Y dyddiad cau:
20 Chwefror 2012 / I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan sef:
http://wwec.org.uk/docs/Llais%20y%20Ganolfan%20752%20(Supplement).pdf#page=5
Cysylltwch â: Rachel Penman, E-bost:
rachel@funkydragon.org / Rhif Ffôn: 01978 262370